Thursday, February 22, 2007

 

Chwefror 2007

Newyddion Diweddara’r Rhanbarth Chwefror 2007

Dyddiadau ar gyfer y Dyddiadur

Cynhelir cwrs ‘Cyflwyniad i’r Wobr’ yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, ar 30 Mawrth am gost o £20. Byddwch gystal â hysbysebu’r cwrs i ddarpar gynrychiolwyr. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer arweinyddion newydd neu arweinwyr presennol sydd am ddiweddaru’r wybodaeth sydd ganddynt am y Wobr.

Dyma gyrsiau / digwyddiadau eraill sydd ar y gorwel


3-4 Mawrth Rheoli Diogelwch oddi ar y safle, Libanus £125

19-20 Ebrill Cwrs Goruchwylwyr Alldeithiau, Pont Senni £85
24 Mai Her Gorfforaethol, Crucywel £1000
25 Mai Her Geltaidd, Crucywel £120
20 Mehefin Diwrnod Golff, Bro Morg £495
12-14 Hydref Ras Antur, Eryri £400

Mae gwybodaeth bellach am bob un o’r uchod ar gael gan ein swyddfa yn Aberhonddu.

Gwaetha’r modd, roedd rhaid i ni ganslo’r diwrnod hyfforddi ‘Cyflwyno’r Wobr’ a oedd i fod i gael ei gynnal yng Ngogledd Cymru ar 2 Mawrth.

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru

Mae 5 categori ar gyfer y wobr glodfawr hon, a bydd yr enillwyr yn cael eu gwahodd i Seremoni Wobrwyo yng Nghaerdydd fis Mehefin eleni. Dyma’r categorïau;
· Dros 25
· O dan 25
· Gwirfoddolwr gwyrdd (unrhyw oedran, gyda phrosiect neu
gorff amgylcheddol)
· Ymddiriedolwr
· Grŵp (dau neu fwy o unigolion, fel grŵp anffurfiol neu gorff wedi
ei gyfansoddi’n ffurfiol)

Os oes gennych chi rywun yr hoffech ei enwebu ac yr hoffech gael mwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â desg gymorth CGGC (WCVA) ar 0800 2888 329 e-bost:
help@wcva.org.uk neu lwythwch i lawr oddi ar www.wcva.org.uk/volunteering.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 13 Ebrill 2007.
Gwych o beth fyddai achub ar y cyfle hwn i gydnabod rhai o wirfoddolwyr dygn y Wobr.

Adolygiad Cymru

Mae’r Wobr yng Nghymru wedi bod yn cynnal adolygiad o’i gweithgaredd a’i hadnoddau ac o ganlyniad mae dau newid mawr i fod i ddigwydd dros y misoedd nesaf.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae’r Wobr wedi bod wrthi gyda phrosiect yn cefnogi pobl ifanc oddi mewn i’r System Cyfiawnder Troseddol i gael cymryd rhan yn y Wobr. Mae’r prosiect yn cynnwys 16 aelod o staff a 7 partner o Dimau Troseddwyr Ifanc a’r Gwasanaethau Prawf. Mae’r prosiect wedi bod yn gymaint o lwyddiant fel y gwnaed penderfyniad i gefnogi creu cwmni elusennol ar wahân,sef: Ymyriadau Cyfiawnder Cymunedol Cymru (YCCC). Bydd hwn yn ei gynnal ei hun a bydd yn sicrhau y bydd y gwaith gwerthfawr iawn hwn yn cael ei ymestyn ymhellach.
Rhagwelir y bydd y cwmni newydd yn dechrau gweithredu o 1 Ebrill. Bydd manylion llawn am y cwmni newydd ar gael maes o law.

Mae’r adolygiad wedi canolbwyntio hefyd ar yr adnoddau sydd eu hangen i gefnogi amcanion presennol y Wobr a hynny yn ei dro wedi arwain at archwilio’r staffio a’r costau uniongyrchol a gysylltir â digwyddiadau. Mae’r broses ymgynghori bellach ar ben ac o ganlyniad iddi, effeithiwyd ar dair o’r swyddi gweinyddu / cefnogi yn Swyddfa Cymru.
Crewyd swydd amser llawn o Swyddog Cefnogi a Gweinyddu Prosiectau’r Wobr.
· Crewyd swydd ran amser (tridiau); Swyddog Cefnogi a
Gweinyddu Adnoddau Dynol gan YCCC.

Yn sgil yr ailstrwythuro uchod mae Emma Morrow wedi cymryd tâl diswyddo, o 1 Ebrill bydd Beverly Williams yn trosglwyddo i YCCC a bydd Rhian McDonough yn ymgymryd â’r swydd Swyddog Prosiectau newydd.

Llawer o ddiolch i Bev ac Emma am eu holl waith caled yn ystod y 10 / 4 mlynedd ddiwethaf.


Gwefan y Wobr

Mae gwefan y wobr bellach yn cynnwys Parth Hyfforddi llawn gwybodaeth, sy’n ddelfrydol ar gyfer arweinwyr ac ati. Edrychwch ar y Parth Hyfforddi ar
http://www.theaward.org/awardofficers/index.php?ids=1816&id=1032

Mae gennym hefyd dudalen i Rieni sy’n llawn gwybodaeth os oes gennych rieni sydd am wybod pa brofiadau y bydd eu plant yn eu cael wrth wneud y Wobr. Edrychwch ar y dudalen hon ar
http://www.theaward.org/parents/index.php?ids=1522&id=1452










Friday, November 03, 2006

 

Hydref 2006

Y Diweddaraf o’r Rhanbarth Hydref 2006

Lluniau Fideo'r Wobr
Mae’r Wobr yn awyddus i goladu unrhyw luniau a dynnwyd o ddigwyddiadau’r 50 Mlwyddiant – os oes gennych unrhyw luniau o’r fath rydych yn fodlon anfon atom, byddai hynny’n ardderchog.

Ffotograffau a Thoriadau o Bapurau Newyddion
Ar nodyn tebyg - rydym yn cadw dyddiadur ffotograffaidd o ddigwyddiadau’r 50 Mlwyddiant yn y Rhanbarth. Os hoffech gynnwys unrhyw rai o’ch digwyddiadau chi sydd wedi digwydd eleni yn y dyddiadur hwn - anfonwch nhw atom gyda disgrifiad byr. Unrhyw doriadau o bapurau newyddion hefyd.

Y Cyngor Cyffredinol
Mae llefydd ar gael o hyd ar gyfer y Cyngor Cyffredinol sy’n cael ei gynnal o 5 i 7 Tachwedd yng Nghaeredin. Bydd EUB Dug Caeredin, EUB Iarll Wessex ac Ymddiriedolwyr y Wobr yn ymuno â chynrychiolwyr o’r DU a thua 300 o gynrychiolwyr o dramor a fydd yn mynychu eu Fforwm Ryngwladol. Bydd y digwyddiad yn cael ei lywyddu gan y newyddiadurwr teledu profiadol a’r cyflwynwr newyddion, Martyn Lewis.

Mae mwy o wybodaeth a ffurflen gais ar gael ar y wefan.

Cyllid SERCO
Rydym am roi gwybod i chi gyd, o’r £10,000 y mae Serco yn ei roi i’r Wobr bob blwyddyn, mae £6,482 ar gael o hyd i ariannu pobl ifanc dan anfantais gan gynnwys troseddwyr ifanc.

Efallai eich bod chi’n ymwybodol bod gennym ni £1000 wedi’i ddyrannu i Gymru i’w drosglwyddo i grwpiau, ac mae’n siwr gennyf y byddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr.

Y cyfan sydd ei angen arnom yw llythyr wedi’i ysgrifennu â llaw oddi wrth arweinwyr â lluniau a straeon am sut fyddai’r arian yn newid bywydau/rhoi cyfleoedd i bobl ifanc na fyddent wedi eu cael fel arall.

Os hoffech wneud cais am gyllid SERCO, anfonwch eich gwybodaeth at Steph.


Cyfleoedd Preswyl
Mae Dinas a Sir Abertawe yn cynnal 2 Gynllun Preswyl yn ystod 2007. Dyddiadau’r Cynlluniau Preswyl yw 3-7 a 9-13 Ebrill a fydd yn digwydd yng Nghanolfan Gweithgareddau Gŵyr, Abertawe. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys syrffio, adeiladu tîm, mordwyo, dringo creigiau, abseilio a llawer, llawer mwy. Am fwy o wybodaeth, rhaglen a ffurflen gais, cysylltwch â Seb Haley ar
Seb.Haley@swansea.gov.uk neu ewch i wefan Canolfan Gweithgaredd Gŵyr ar www.goweractivitycentre.org.uk.

Tall Ships
Mae Tall Ships wedi dod o hyd i ychydig o gyllid cyfyngedig y gellir ei ddefnyddio ar gyfer pobl ifanc yn genedlaethol – felly, mae pob mordaith ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr ar gael i’r bobl ifanc am £50 ac yswiriant yn unig i deithio i’r llongau ac oddi yno.
Allwch chi ddod o hyd i bobl ifanc 16-17 mlwydd oed ar gyfer y mordeithiau i ieuenctid a phobl ifanc 18-25 mlwydd oed ar gyfer y mordeithiau i oedolion?
Yn ddelfrydol, dylai’r bobl ifanc fod dan anfantais fel bod Tall Ships yn gallu defnyddio’u cyllid i helpu i ychwanegu at eu cyfraniad at ffi wreiddiol y fordaith.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chas Cowell ar 02392 832055 neu chas.cowell@tallshops.org



Newid Dyddiad
Sylwch fod dyddiad Anghenion Arbennig yng Ngogledd Cymru wedi newid o 31 Hydref i 27 Tachwedd. Ymddiheuriadau lawer am unrhyw anghyfleustra mae hyn wedi’i achosi.

Dyddiadau ar gyfer y Dyddiadur
Seminarau AAA De Cymru 20/11/06 Gogledd Cymru 27/11/06
Cyflwyniadau Gwobrau Aur 14 a 23 Tachwedd 2006
Cwrs Achredu Aseswyr Gwlad Wyllt 2-4 Chwefror 2006
Cymorth Cyntaf Achub a Gofal Brys (REC) 9/10 Rhagfyr, Parc Gwledig Craig-y-Nos.

Cyrsiau BELA
Ni fyddwn yn cynnal cwrs BELA eleni, ond mae amryw o ddarparwyr sydd yn ei gynnig.

MW Guiding Services – Cysylltwch â Mike Lloyd Wood ar 01443 453494 neu e-bostiwch
mwguiding@cix.co.uk neu cliciwch yma i weld y wefan.
RCTraining – Cysylltwch â Robert Clapham ar 01792 865139
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Cysylltwch â Richard Batten ar 01495 200113
Cyngor Sir y Fflint – Cysylltwch â Bill King ar 01352 758139

Wrth gwrs, mae darparwyr eraill a fydd yn cynnal cyrsiau BELA trwy Gymru.

Plas y Brenin
Cofiwch y bydd Plas y Brenin yn parhau i gynnal llawer o ddigwyddiadau hyfforddi cymorthdaledig ar gyfer Arweinwyr y Wobr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Helen Barnard ar 01690 720214.

Siarad â rhieniDiolch i haelioni Sefydliad Pears, rydym wedi gallu cynhyrchu deunydd newydd i’w ddefnyddio wrth siarad â rhieni darpar Gyfranogwyr y Wobr. Rydym wedi gallu cynnal ymchwil gyda grwpiau o rieni cyfranogwyr a rhai nad ydynt yn cymryd rhan, trwy’r wlad. Edrychodd y grwpiau ffocws ar agweddau at a gwybodaeth am y Wobr, yn ogystal â theimladau am daflenni presennol i rieni. Roedd gan rieni farnau cryf am sut yr hoffent dderbyn y wybodaeth. Roedd y cysyniad o gael noson rieni lle gallent ofyn cwestiynau a lleddfu eu hofnau, a chyfarfod ag Arweinwyr y Wobr dan sylw, i’w weld fel y dull mwyaf poblogaidd. Wrth weithio ochr yn ochr â’r Response Team - asiantaeth â llawer o brofiad amlddiwylliannol - a phartïon gweithio sy’n cynnwys Swyddogion y Wobr, arweinwyr a rhieni, rydym wedi gallu datblygu’r deunydd newydd hyn. Gall Arweinwyr unigol y Wobr neu Awdurdodau Gweithredol addasu llawer o’r eitemau i’w defnyddio o fewn eu grwpiau unigol a/neu eu cymunedau lleol.
Mae’r deunydd newydd yn cynnwys taflenni a chyflwyniadau PowerPoint. Mae copïau wedi’u hargraffu o’r taflenni generig ar gael gan The Award Scheme Ltd (www.theaward.org/shop - 0131 553 5280 asl@theaward.org)Gellir dod o hyd i ystod eang o dempledi o’r eitemau newydd hyn, i’w defnyddio gan Grwpiau’r Wobr ac Awdurdodau Gweithredol, ar: www.theaward.org/downloads - llenwch y ffurflen gofrestru fer ac yna dilyn y cyswllt i’r safle lawrlwytho. Bydd casgliad o luniau newydd ac arweiniad manwl ar ddefnyddio’r templedi yn cael eu rhoi ar yr un safle yr wythnos nesaf.

Cynhadledd yr Hydref MLTA 11 Tachwedd 2006
MLTA yw’r gymdeithas ar gyfer holl arweinwyr a goruchwylwyr mynydd sydd wedi’u cofrestru â Hyfforddi Arweinwyr Mynydd yn y DU ac Iwerddon.

Bydd cynhadledd yr hydref MLTA yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Fynydd Genedlaethol Plas y Brenin.

Ar sail ymatebion aelodau, mae’r rhaglen amodol i arweinwyr yn cynnwys y meysydd pwnc canlynol:

Arfer gorau mewn arweinyddiaeth mynydd a chraig
Addysgu sgiliau mordwyo
Sgiliau dringo amlddringen
Y Cynllun Gwobrwyo Mordwyo Cenedlaethol
Gwaith rhaff i Arweinwyr Mynydd
Gwobrau Uwch (IML, MIA a MIC); Sut i’w cyflawni
Hyfforddi sgiliau symudiadau dringo
Adroddiadau digwyddiadau a dysgu gwersi

Bydd Cynhadledd MLTA yn cael ei chefnogi gan y Canolfannau Mynydd Cenedlaethol - Plas y Brenin a Glenmore Lodge, AMI, BAIML, MLTE, MLTW a MLTUK, a fydd yn darparu arweinwyr y gweithdai.
Cost y gynhadledd fydd £40 i aelodau MLTA. I’r rhai nad ydynt yn aelodau - £50. Bydd y rhai nad ydynt yn aelodau sy’n bresennol ar y diwrnod yn gymwys am ddisgownt o £10 os ymunant ag MLTA wedyn.
Mae’r dydd Sul sy’n dilyn y gynhadledd i fod yn ddiwrnod llai ffurfiol i’w dreulio ar fynyddoedd a chlogwyni ardderchog Yr Wyddfa ar gyfer cyfranogwyr a darparwyr y gweithdai.
Bydd aelodau MLTA sy’n archebu lle yn gynnar yn cael y cyfle i ennill gwobr werthfawr; diwrnod o hyfforddiant rhad ac am ddim neu arweiniad ar gyfer eu hunain a ffrind gan aelod o Gymdeithas Hyfforddwyr Mynydda sy’n cefnogi’r digwyddiad hwn. Y dyddiad i’w gytuno’n nes ymlaen.
Bydd aelodau MLTA sy’n cael un neu o fwy o bobl nad ydynt yn aelodau i archebu lle ar yr un pryd yn derbyn gostyngiad o £5 i’w tanysgrifiad blynyddol nesaf.
Mae rhaglen y gynhadledd a ffurflenni archebu ar gael ar
www.mlta.co.uk


Gweithgaredd Canŵio ar Afon Tafwys
Mae Gwobr Dug Caeredin yn disgwyl i’r holl Awdurdodau Gweithredol a’u staff / gwirfoddolwyr ddilyn cyngor ac arweiniad diogelwch unrhyw asiantaeth y llywodraeth neu gorff llywodraethu cenedlaethol.

Mae’r datganiad canlynol yn amlinellu polisi’r Wobr ar gyfer gweithredu ar Afon Tafwys tra o dan y system bwrdd rhybuddio a nodir isod:

Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud ag Afon Tafwys yn unig.

Mae’n rhaid glynu wrth y canllawiau gweithredol canlynol.

Byrddau Melyn -Ni ellir cynnal unrhyw fentrau’r Wobr gan gynnwys mentrau hyfforddi, arfer a chymhwyso. Fodd bynnag, gellir cynnal gweithgareddau sy’n benodol i safle ag asesiadau risg priodol h.y. gwaith cored. Os bydd y statws yn newid i Fyrddau Coch yn ystod y gweithgaredd, dilynwch y cyngor Byrddau Coch.

Byrddau Coch – ni fydd unrhyw weithgaredd y Wobr yn cael ei gynnal.

Bydd y Wobr mewn ymgynghoriad â’r BCU, ALAA ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn archwilio meini prawf ar gyfer pryd y gellid cynnal gweithgareddau pan ddangosir byrddau coch.


Dolennau a Chysylltiadau
Os ydych yn cynllunio anturio o amgylch Merthyr/Cymoedd y Rhondda, efallai y bydd y wefan hon yn ddefnyddiol iawn i chi www.loopsandlinks.co.uk. Mae’n rhoi gwybodaeth am y bywyd gwyllt sydd yn yr ardal hon, canolfannau awyr agored a llety, sy’n ddelfrydol ar gyfer alldeithiau a fforiadau. Mae adnawdd ar gael hefyd sy’n rhoi manylion am nifer o lwybrau sy’n addas ar gyfer teithiau cerdded dydd ac alldeithiau.


Wednesday, September 06, 2006

 
Y Diweddaraf o’r Rhanbarth Medi 2006

Digwyddiadau Hanner Canmlwyddiant
Rydym yn dod yn agosach at ddiwedd ein Dathliadau Hanner Canmlwyddiant, a dyna flwyddyn fu hi. I gofnodi’r achlysur arbennig hwn byddwn yn llunio llyfryn yn cynnwys gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau a gynhaliwyd yng Nghymru a thu hwnt! Bydd y llyfryn hwn yn cynnwys adroddiadau byr am yr hyn ddigwyddodd, lluniau a hefyd grynodeb o’r arian a godwyd.


Cyfrannwch at ein llyfr negeseuon
Fel y gwyddoch, mae 2006 yn nodi pen-blwydd hanner canmlwyddiant Gwobr Dug Caeredin yn y DU. Er mwyn cofnodi llwyddiannau’r Wobr a dathlu dyfodol y Rhaglen yn y DU a thu hwnt, cynhelir nifer o ddigwyddiadau o amgylch y byd, gan orffen yn y Cyngor Cyffredinol/Fforwm Rhyngwladol cyfunol yng Nghaeredin (lle y cynhaliwyd y Cyngor Cyffredinol cyntaf) yn Nhachwedd 2006. Sefydlwyd y Wobr gan Ei Fawrhydi Dug Caeredin, sydd wedi gwthio ei datblygiad ymlaen yn ddiflino dros yr 50 mlynedd diwethaf ac sy’n parhau’n weithgar drosti hyd y dydd heddiw. I gydnabod ymrwymiad ein Noddwr wrth gyrraedd y garreg filltir hon ac i ddathlu’r rhan a chwaraewyd gan ein partneriaid, mae Gwobr Dug Caeredin yn ystyried llunio Llyfryn o Negeseuon.
Yr amcanFel mae ei enw’n awgrymu, bydd Y Llyfr o Negeseuon yn cynnwys llythyr neu neges oddi wrth brif gefnogwyr y Wobr, at Ei Fawrhydi Dug Caeredin, ynglŷn â’r hyn a wnaethant a’r gwahaniaeth mae’r Wobr wedi ei wneud i’w hardal hwy. Gwahoddir Cyfranwyr ac Ymddiriedolwyr hefyd i gyfrannu at y llyfr. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried sut i gyflwyno’r llyfr hwn i’r Noddwr. GweithreduGofynnir i Swyddog Gwobr bob Awdurdod Geithredol i:
Ofyn i brif gefnogwr y Wobr yn ei Sir (er enghraifft, gall hyn fod yn Bennaeth Ysgol Annibynnol, Pennaeth y Bwrdd Addysg a Llyfrgelloedd, Pennaeth y Gwasanaeth Ieuenctid, y Cynghorydd Sir, neu Brif Weithredwr y Sefydliadau Gwirfoddol ayyb) a gofyn iddynt am baragraff / neges fer (heb fod yn fwy na 50 gair) yn llongyfarch y Noddwr ar Ddathlu Hanner Canmlwyddiant Gwobr Dug Caeredin. Rhaid i’r neges gynnwys enw’r sawl a’i hanfonodd, teitl ei swydd /rôl, enw’r sefydliad a chopi o logo’r sefydliad. Dylid anfon logos ar fformat jpg ar 300dpi fel y gellir eu hargraffu’n gywir.
Ffordd arall fyddai gofyn i wirfoddolwyr neu bobl ifanc i ysgrifennu neges ar ran yr Awdurdod Gweithredol.
Amseru
Medi 2006: Dylid anfon yr holl gyfraniadau at Sam Bennie yn Gwobr Dug Caeredin, Gulliver House, Madeira Walk, Windsor, Berkshire, SL4 1EU neu drwy’r e-bost i:
samantha.bennie@theaward.org
Tachwedd 2006: Cyflwynir y Llyfr i’w Fawrhydi Dug Caeredin.
Gallwn lunio’r llyfr unigryw hwn yn unig os gwnaiff pobl gyfrannu, felly gweithredwch yn awr a gwnewch yn siŵr bod y Wobr yn derbyn eich cyfraniad erbyn y dyddiad cau!


Dyddiadau ar gyfer y Dyddiadur
Cyfarfod Pwyllgor Cyswllt 15fed Medi 2006
Cyfarfod Ymgynghorol Cymru 18fed Medi 2006
Cyfarfod y Swyddogion Datblygu 18fed Hydref 2006
Cynhadledd AAA, Gogledd Cymru 31ain Hydref 2006
Cyflwyniadau Gwobrau Aur 14 eg Tachwedd 2006
23 ain Tachwedd 2006
Seminar AAA, De Cymru 20fed Tachwedd 2006
Cyngor Cyffredinol, Caeredin 5 – 7fed Tachwedd 2006

Newidiadau Staff
Trist gennyf orfod dweud bod Ann O’Toole wedi ein gadael a mynd i borfeydd newydd. Mae gan Ann swydd newydd fel athrawes beripatetig cerddoriaeth yn rhanbarth Gwent a bydd yn ein gadael ar ddydd Gwener 25ain Awst. Anfonwn ein dymuniadau gorau at Ann.

Rwy’n falch i ddweud wrthych chi bod Rhian wedi dychwelyd o’i chyfnod mamolaeth.

Dechreuodd Dewi Evans weithio fel Swyddog Datblygu Cymraeg Y Wobr yn ddiweddar. Rwy’n siŵr os nad ydych wedi cyfarfod Dewi hyd yn hyn, byddwch yn ei gyfarfod yn y dyfodol agos.

Cadeirydd Newydd Pwyllgor Cymru
Ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth, mae John Ellis wedi ymddeol fel Cadeirydd Cymru. Hoffwn ddiolch i John am ei holl gefnogaeth dros y blynyddoedd ac rwy’n siŵr y byddwn o hyd yn cyfarfod o bryd i’w gilydd. Hoffwn groesawu’r Athro Richard Daugherty sydd wedi cytuno i gymryd y Gadair ar ôl John.

Seminar Anghenion Addysg Arbennig
Bydd dau Seminar 1 diwrnod AAA yn digwydd yn y Gogledd a’r De yn ystod yr Hydref. Nod y seminarau hyn yw codi ymwybyddiaeth a hefyd i weld sut y gall y Wobr ddatblygu i fod yn fwy ymarferol i’r bobl ifanc ag anableddau ac AAA a hefyd i’r arweinyddion sydd yn eu cefnogi fel ei gilydd. Bydd rhaglen a mwy o wybodaeth yn cael eu hanfon atoch cyn bo hir, mae’r seminar yn rhad ac am ddim ond mae lleoedd yn gyfyngedig i 40 cynrychiolydd ym mhob seminar. Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu fodelau arfer da yn y maes hwn cysylltwch â Rhian McDonough yn Rhian.mcdonough@theaward.org .

A Allwch Chi Helpu?
Mae’r Wobr yn chwilio am nifer o astudiaethau achos unigol i ddangos yr ystod eang o bobl ifanc o bob cefndir sy’n cymryd rhan yn y Wobr. Byddai’n dda cael un o bob Awdurdod Gweithredol ac os ydych yn gwybod am bobl ifanc sydd â stori arbennig i’w hadrodd am y ffordd mae’r Wobr wedi dylanwadu ar eu bywydau gofynnwch iddynt gysylltu â Rhian.

Gwobr Goruchwylwyr Dringo Wal (CWSA)

Mae Hyfforddiant Arweinydd Mynydda y DU (MLTUK) newydd lansio ymgynghoriad eang i weld os oes angen CWSA neu beidio. Gosodir un ffurf bosibl mewn dogfen ymgynghorol a thrwy holiadur mae’n chwilio am adborth oddi wrth sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb.

Rhowch y wybodaeth hon i bobl berthnasol a’u hannog i lenwi’r holiadur yn www.mltuk.org .

Cyngor Cyffredinol 5-7 Tachwedd 2006
Cynhelir Cyngor Cyffredinol Gwobr Dug Caeredin bob dwy flynedd. Bydd Ei Fawrhydi Dug Caeredin ac Iarll Wessex yn ymuno â’r Ymddiriedolwyr a’r cynrychiolwyr yng Nghaeredin. Bydd rhaglen o siaradwyr, seminarau, adloniant ac arddangosfa o gyflawniadau pobl ifanc - rhywbeth i bawb. Os oes gennych ddiddordeb i fynychu’r digwyddiad hwn cysylltwch â’ch Swyddog Gwobr.

Anturiau Padlo
Cyhoeddwyd llyfryn newydd sy’n cynnwys cyngor diwygiedig am anturiau canŵio. Gellir ei lawrlwytho yn: .






Wednesday, January 25, 2006

 

Rhanbarth Cymru

Diweddariad Rhanbarthol Ionawr 2006

Blwyddyn Newydd Dda!

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth
I ddathlu 50 mlwyddiant y Wobr, rydym wedi lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth fyd-eang, ‘Ysbryd y Wobr’ – felly profwch eich sgiliau tynnu lluniau i’r eithaf drwy gymryd rhan.
Gallech chi ennill camera Olympus werth £1,000 a chynhyrchu lluniau swyddogol y Wobr ar gyfer 2006.

Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.theaward.org/participants/index.php?ids=2404&id=1640


50 Mlwyddiant

Wrth i ni gychwyn ein blwyddyn 50 mlwyddiant, fe welwch isod wybodaeth oddi wrth y Brif Swyddfa sy’n amlinellu’r hyn a gyflawnwyd hyd yma, a’r hyn rydym yn gobeithio ei gyflawni yn ystod y flwyddyn.

Yn gyntaf, y newyddion rhagorol yw ein bod wedi cyrraedd ein £1miliwn cyntaf! Mae hon yn garreg filltir sylweddol ac yn rhoi sylfaen gadarn i’r Gronfa Jiwbilî adeiladu arni y flwyddyn nesaf.

Dyma’r hanes hyd yma!


Dyma nodyn byr i’ch atgoffa am rai o’r digwyddiadau eraill sy’n digwydd y flwyddyn nesaf


I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru CLICIWCH YMA


Cyfleoedd i Hyfforddi

Trefnir 2 Gwrs Hyfforddi Arweinwyr Newydd (Cyflwyniad i’r Wobr) yng Nghanolbarth Cymru (Elan Valley Lodge, Rhaeadr, 25/3/06) a De Cymru (Canolfan Ynyshywel, Hengoed, 8/4/06). Pris y naill gwrs a'r llall yw £20 a byddwn yn gwerthfawrogi cael enwau’r cyfranogwyr posibl cyn gynted â phosibl.

Cwrs cymorth cyntaf modiwlaidd yw Cwrs Cymorth Cyntaf Argyfwng REC a gynlluniwyd gan feddygon arbenigol sy’n gweithio mewn gofal iechyd pell. Mae’r cyrsiau’n gydbwysedd rhwng dysgu a sgiliau ymarferol, wedi’u cymysgu ag enghreifftiau o sefyllfaoedd go iawn. Os hoffech fynychu un o’r cyrsiau hyn, mae Gwasanaethau Bigfoot yn cynnal cyrsiau misol yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus o fis Chwefror hyd fis Rhagfyr am bris o £120. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Bigfoot yn uniongyrchol ar 01874 625077. Soniwch eich bod yn un o Arweinwyr y Wobr wrth wneud ymholiadau.


DEAMS

Gobeithir cynnal cwrs DEAMS ar 13 Mawrth 2006 yng Nghanolfan MRC yn Llandrindod. Anfonir gwybodaeth bellach a chadarnhad am leoedd cyn bo hir.


Newyddlen Chwarterol


Erbyn hyn, dylech fod wedi derbyn Newyddlen y Nadolig, a anfonwyd ganol mis Rhagfyr. Os nad ydych wedi derbyn hon eto, rhowch wybod i mi, a gallaf anfon copi atoch. Byddem yn gwerthfawrogi adborth am y newyddlen yn fawr iawn, a pheidiwch ag anghofio am y gystadleuaeth capsiwn!!

Y dyddiad cau ar gyfer erthyglau Rhifyn y Gwanwyn yw dydd Gwener 10 Chwefror 2006. Anfonwch yr holl fanylion am y Newyddlen at Rhian.mcdonough@theaward.org


Y Pytiwr Aur

Cynhelir Rownd Ragbrofol y Pytiwr Aur ar gyfer Rhanbarth Cymru yng Nghlwb Golff Dyffryn Llangollen, Gogledd Cymru ar 31 Mai 2006. Pris cystadlu yw £10 a bydd yr enillydd a’r sawl sy’n dod yn ail yn mynd drwodd i’r rownd derfynol yn Wentworth ar 21 Gorffennaf 2006.

Mae gwybodaeth bellach a ffurflenni cais ar gael gan Ian Gwilym yn ian.gwilym@theaward.org a hefyd ar wefan y Wobr


Cyflwyniadau Aur


Cynhelir dwy Seremoni Cyflwyno’r Wobr Aur cyn bo hir. 23 ac 28 Chwefror yw’r dyddiadau. Bydd 6 grŵp o Gymru’n mynychu’r ddau ddigwyddiad.


Cynhadledd MLTE / MLTW.


I’w chynnal ym Mhlas y Brenin ddydd Sadwrn 25 Mawrth 2006.
Bydd sail ymarferol i’r gynhadledd hon a bwriedir cynnal gweithdai / cyflwyniadau / gweithgareddau ynddi i symbylu pawb sy’n ymwneud â chyflwyno’r Wobr MLT.
Cost £50.

Cysylltwch â: 01690 720314

Monday, October 31, 2005

 

Rhanbarth Cymru

Diweddariad Rhanbarthol Rhagfyr 2005

Helo,
Dyma ail rifyn ein Blog, sydd â’r nod o roi’r newyddion diweddaraf i chi am ddatblygiadau yn y Wobr ledled y DU.

Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi.

Steph


Cyflwyniadau’r Wobr Aur


Yn ddiweddar, gwelwyd cyflwyno eu Gwobrau Aur i dros 150 o bobl ifanc ym Mhalas Sant James. Bu’r Cyflwyniad , a ddigwyddodd ym mis Hydref, yn llwyddiant mawr, a Katherine Jenkins oedd yn cyflwyno’r tystysgrifau. Mynychodd 4 grŵp o Gymru y cyflwyniad ym mis Tachwedd, a David Hempleman-Adams a Tom Avery a oedd yn cyflwyno’r tystysgrifau. Hoffwn ddiolch i’r holl gyflwynwyr, y Gwesteion Arbennig a’r Swyddogion a fynychodd y ddau Gyflwyniad. Nid oes unrhyw ddyddiadau wedi’u cadarnhau ar gyfer Cyflwyniadau 2006, ond rhown ni wybod y newyddion diweddaraf i chi.


Pen-blwydd yn 50


Lansiwyd y Pen-blwydd yn 50 ar 19 Hydref 2006. Roedd hwn yn ddigwyddiad rhagorol ac rydym wedi cael sawl ymateb cadarnhaol oddi wrth Deiliaid Gwobrau Aur a welodd y lansiad ac a fyddai’n hoffi cysylltu i helpu yn ystod y flwyddyn.

Mae yna un diweddariad i’n dathliadau rhanbarthol, sef newid dyddiad yr Her Geltaidd. Cynhelir y digwyddiad bellach ddydd Gwener 26 Mai 2006 gyda’r gwersylla dewisol ar gael o hyd ddydd Iau 25.


Bwrsari SERCO


Mae swm o arian y gallwch chi wneud cais amdano o hyd ar ran Pobl Ifanc sy’n ei chael yn anodd cael yr offer hanfodol ar gyfer adran alldeithio’r Wobr. Mae’r ffurflenni cais yn hawdd eu llenwi a’r cyfan a ofynnwn yn gyfnewid yw eich bod chi’n darparu astudiaeth achos fer i ni o sut y gwnaeth y grant wahaniaeth i’r person ifanc, gydag ychydig o ffotograffau efallai. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â’r swyddfa am ffurflen gais.


Ymweliad Brenhinol Tachwedd 2005


Ar 10 Tachwedd 2005, daeth EUB Iarll Wessex i Ogledd Cymru i wylio darpar gyfranogion yn cymryd rhan mewn diwrnod ‘pasport i antur’ ar Ynys Môn; Deiliaid y Wobr Efydd yn derbyn eu tystysgrifau a hefyd dathliad o bartneriaeth 10 mlynedd â’r Gwasanaeth Prawf; dadorchuddio plac yng Ngholeg Dewi Sant, Llandudno i ddathlu eu pen-blwydd yn 40, ac yn olaf i dderbyniad diodydd yn Swyddfeydd Cyngor Conwy.

Roedd y diwrnod yn llwyddiannus iawn ac ymadawodd EUB gan deimlo’n gadarnhaol iawn ynghylch y Wobr yng Nghymru.

Hoffem ddiolch i bawb a gynorthwyodd ar y diwrnod.


Dyddiaduron

Er gwybodaeth, ni fydd y Wobr yn cynhyrchu’r dyddiaduron A4 na’r dyddiaduron poced eleni – gwn fod llawer ohonoch wedi mwynhau derbyn y rhain yn y gorffennol . . . ond bydd yn rhaid i chi wneud trefniadau amgen eleni.


Cyfleoedd Hyfforddi


Mae’r cwrs Achredu Aseswyr yn llenwi’n dda ac rwy’n disgwyl cael cwrs llawn ym mis Ionawr. Mae’r cwrs a gynhelir ym Mhlas y Brenin wedi bod yn llwyddiannus erioed, felly er mwyn sicrhau eich lle, cysylltwch â mi cyn gynted ag y bo modd.


Y Wefan


Rydym yn cael problemau gyda gwefan y Wobr ar hyn o bryd (problem genedlaethol, nid yng Nghymru’n unig!) Cyn gynted ag y bydd y problemau hyn wedi’u datrys, byddwn yn parhau i ddiweddaru’r wefan yn rheolaidd. Rhowch wybod i ni am unrhyw eitemau yr hoffech chi eu gweld ar y wefan, neu eitemau yr hoffech chi eu tynnu oddi arni!


Newyddlen Chwarterol


Fel y soniwyd yn Blog mis Hydref, rydym yn cynhyrchu newyddlen chwarterol a fydd ar gael cyn y Nadolig.

Diolch yn fawr iawn i Sir Gaerfyrddin ac Abertawe am eu cyfraniadau!


Cymdeithas Hyfforddi Arweinwyr Mynydd


Mae Hyfforddi Arweinwyr Mynydd Cymru yn cefnogi datblygu Cymdeithas ar gyfer arweinwyr cymwys ac arweinwyr dan hyfforddiant ar draws y DU. Bydd nifer o fanteision i fod yn aelod o’r Gymdeithas, fel yr amlinellir isod a bydd yn rhoi cyfle i’r rheiny sydd am gael mwy o brofiad i rwydweithio gydag eraill a chael mynediad i fwy o hyfforddiant.


Aelodaeth


Mae Aelodaeth Lawn ar agor i arweinwyr sydd wedi llwyddo yn y cwrs asesu, sef un o wobrau cenedlaethol Byrddau Hyfforddiant Mynydd y DU.
Y gwobrau perthnasol yw SPA, WGL, ML(S), ML(W), a gwobrau uwch.

Mae Aelodaeth Cydymaith ar agor i arweinwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer unrhyw un o’r gwobrau uchod ond sydd heb basio cwrs asesu eto.


Y Manteision



Manteision Ychwanegol


Rhedir MLTA o swyddfeydd Hyfforddi Arweinwyr Mynydd ym Mwthyn Siabod ac mae gan yr aelodau fynediad uniongyrchol at Phill Thomas, sef aelod o’r staff sy’n arweinydd mynydd ac yn gyn dirprwy bennaeth mewn canolfan addysg awyr agored. Gall ateb y mwyafrif o’ch ymholiadau, ac fe’i cefnogir gan aelodau eraill o staff hynod brofiadol.


Sut mae ymuno?


Ewch i www.mlta.co.uk ac ymunwch ar-lein.

Mae’r MLTW, ynghyd â’r Byrddau hyfforddi cenedlaethol eraill, yn darparu hyfforddiant ac asesiadau ar gyfer y gwobrau canlynol: y Wobr Ddringen Unigol (SPA) sy’n hyfforddi arweinwyr i oruchwylio eraill ar glegyrau dringen unigol a waliau dringo, Gwobr Arwain Grŵp Cerdded (WGL) sy’n hyfforddi arweinwyr i arwain eraill ar y mynyddoedd is a thir o fath gweundirol, a’r Wobr Arwain Mynydd (Haf) (ML) sy’n hyfforddi arweinwyr i arwain eraill ar holl fynyddoedd y DU ac Iwerddon o dan amodau nad ydynt yn aeafol. Ystyrir y gwobrau hyn yn eang fel meincnodau gallu ym maes hyfforddiant mynydd, ac fel y cyfryw, mae Awdurdod Trwyddedau Gweithgareddau Antur y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch, yr Adran Addysg a Sgiliau a llawer o gyrff eraill yn eu cydnabod.

Am fwy o wybodaeth am y cyrsiau uchod, ewch i: www.mltw.org

Cynhelir y cyrsiau hyn hefyd gan Blas y Brenin, Gogledd Cymru ac mae mwy o wybodaeth ar gael oddi wrth Helen Barnard ar 01690 720214 neu anfonwch neges e-bost at helen.barnard@pyb.co.uk. Gall arweinwyr y gwobrau gael cyfraddau ffafriol ar gyfer y cyrsiau hyn.

This page is powered by Blogger. Isn't yours?