Wednesday, September 06, 2006

 
Y Diweddaraf o’r Rhanbarth Medi 2006

Digwyddiadau Hanner Canmlwyddiant
Rydym yn dod yn agosach at ddiwedd ein Dathliadau Hanner Canmlwyddiant, a dyna flwyddyn fu hi. I gofnodi’r achlysur arbennig hwn byddwn yn llunio llyfryn yn cynnwys gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau a gynhaliwyd yng Nghymru a thu hwnt! Bydd y llyfryn hwn yn cynnwys adroddiadau byr am yr hyn ddigwyddodd, lluniau a hefyd grynodeb o’r arian a godwyd.


Cyfrannwch at ein llyfr negeseuon
Fel y gwyddoch, mae 2006 yn nodi pen-blwydd hanner canmlwyddiant Gwobr Dug Caeredin yn y DU. Er mwyn cofnodi llwyddiannau’r Wobr a dathlu dyfodol y Rhaglen yn y DU a thu hwnt, cynhelir nifer o ddigwyddiadau o amgylch y byd, gan orffen yn y Cyngor Cyffredinol/Fforwm Rhyngwladol cyfunol yng Nghaeredin (lle y cynhaliwyd y Cyngor Cyffredinol cyntaf) yn Nhachwedd 2006. Sefydlwyd y Wobr gan Ei Fawrhydi Dug Caeredin, sydd wedi gwthio ei datblygiad ymlaen yn ddiflino dros yr 50 mlynedd diwethaf ac sy’n parhau’n weithgar drosti hyd y dydd heddiw. I gydnabod ymrwymiad ein Noddwr wrth gyrraedd y garreg filltir hon ac i ddathlu’r rhan a chwaraewyd gan ein partneriaid, mae Gwobr Dug Caeredin yn ystyried llunio Llyfryn o Negeseuon.
Yr amcanFel mae ei enw’n awgrymu, bydd Y Llyfr o Negeseuon yn cynnwys llythyr neu neges oddi wrth brif gefnogwyr y Wobr, at Ei Fawrhydi Dug Caeredin, ynglŷn â’r hyn a wnaethant a’r gwahaniaeth mae’r Wobr wedi ei wneud i’w hardal hwy. Gwahoddir Cyfranwyr ac Ymddiriedolwyr hefyd i gyfrannu at y llyfr. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried sut i gyflwyno’r llyfr hwn i’r Noddwr. GweithreduGofynnir i Swyddog Gwobr bob Awdurdod Geithredol i:
Ofyn i brif gefnogwr y Wobr yn ei Sir (er enghraifft, gall hyn fod yn Bennaeth Ysgol Annibynnol, Pennaeth y Bwrdd Addysg a Llyfrgelloedd, Pennaeth y Gwasanaeth Ieuenctid, y Cynghorydd Sir, neu Brif Weithredwr y Sefydliadau Gwirfoddol ayyb) a gofyn iddynt am baragraff / neges fer (heb fod yn fwy na 50 gair) yn llongyfarch y Noddwr ar Ddathlu Hanner Canmlwyddiant Gwobr Dug Caeredin. Rhaid i’r neges gynnwys enw’r sawl a’i hanfonodd, teitl ei swydd /rôl, enw’r sefydliad a chopi o logo’r sefydliad. Dylid anfon logos ar fformat jpg ar 300dpi fel y gellir eu hargraffu’n gywir.
Ffordd arall fyddai gofyn i wirfoddolwyr neu bobl ifanc i ysgrifennu neges ar ran yr Awdurdod Gweithredol.
Amseru
Medi 2006: Dylid anfon yr holl gyfraniadau at Sam Bennie yn Gwobr Dug Caeredin, Gulliver House, Madeira Walk, Windsor, Berkshire, SL4 1EU neu drwy’r e-bost i:
samantha.bennie@theaward.org
Tachwedd 2006: Cyflwynir y Llyfr i’w Fawrhydi Dug Caeredin.
Gallwn lunio’r llyfr unigryw hwn yn unig os gwnaiff pobl gyfrannu, felly gweithredwch yn awr a gwnewch yn siŵr bod y Wobr yn derbyn eich cyfraniad erbyn y dyddiad cau!


Dyddiadau ar gyfer y Dyddiadur
Cyfarfod Pwyllgor Cyswllt 15fed Medi 2006
Cyfarfod Ymgynghorol Cymru 18fed Medi 2006
Cyfarfod y Swyddogion Datblygu 18fed Hydref 2006
Cynhadledd AAA, Gogledd Cymru 31ain Hydref 2006
Cyflwyniadau Gwobrau Aur 14 eg Tachwedd 2006
23 ain Tachwedd 2006
Seminar AAA, De Cymru 20fed Tachwedd 2006
Cyngor Cyffredinol, Caeredin 5 – 7fed Tachwedd 2006

Newidiadau Staff
Trist gennyf orfod dweud bod Ann O’Toole wedi ein gadael a mynd i borfeydd newydd. Mae gan Ann swydd newydd fel athrawes beripatetig cerddoriaeth yn rhanbarth Gwent a bydd yn ein gadael ar ddydd Gwener 25ain Awst. Anfonwn ein dymuniadau gorau at Ann.

Rwy’n falch i ddweud wrthych chi bod Rhian wedi dychwelyd o’i chyfnod mamolaeth.

Dechreuodd Dewi Evans weithio fel Swyddog Datblygu Cymraeg Y Wobr yn ddiweddar. Rwy’n siŵr os nad ydych wedi cyfarfod Dewi hyd yn hyn, byddwch yn ei gyfarfod yn y dyfodol agos.

Cadeirydd Newydd Pwyllgor Cymru
Ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth, mae John Ellis wedi ymddeol fel Cadeirydd Cymru. Hoffwn ddiolch i John am ei holl gefnogaeth dros y blynyddoedd ac rwy’n siŵr y byddwn o hyd yn cyfarfod o bryd i’w gilydd. Hoffwn groesawu’r Athro Richard Daugherty sydd wedi cytuno i gymryd y Gadair ar ôl John.

Seminar Anghenion Addysg Arbennig
Bydd dau Seminar 1 diwrnod AAA yn digwydd yn y Gogledd a’r De yn ystod yr Hydref. Nod y seminarau hyn yw codi ymwybyddiaeth a hefyd i weld sut y gall y Wobr ddatblygu i fod yn fwy ymarferol i’r bobl ifanc ag anableddau ac AAA a hefyd i’r arweinyddion sydd yn eu cefnogi fel ei gilydd. Bydd rhaglen a mwy o wybodaeth yn cael eu hanfon atoch cyn bo hir, mae’r seminar yn rhad ac am ddim ond mae lleoedd yn gyfyngedig i 40 cynrychiolydd ym mhob seminar. Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu fodelau arfer da yn y maes hwn cysylltwch â Rhian McDonough yn Rhian.mcdonough@theaward.org .

A Allwch Chi Helpu?
Mae’r Wobr yn chwilio am nifer o astudiaethau achos unigol i ddangos yr ystod eang o bobl ifanc o bob cefndir sy’n cymryd rhan yn y Wobr. Byddai’n dda cael un o bob Awdurdod Gweithredol ac os ydych yn gwybod am bobl ifanc sydd â stori arbennig i’w hadrodd am y ffordd mae’r Wobr wedi dylanwadu ar eu bywydau gofynnwch iddynt gysylltu â Rhian.

Gwobr Goruchwylwyr Dringo Wal (CWSA)

Mae Hyfforddiant Arweinydd Mynydda y DU (MLTUK) newydd lansio ymgynghoriad eang i weld os oes angen CWSA neu beidio. Gosodir un ffurf bosibl mewn dogfen ymgynghorol a thrwy holiadur mae’n chwilio am adborth oddi wrth sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb.

Rhowch y wybodaeth hon i bobl berthnasol a’u hannog i lenwi’r holiadur yn www.mltuk.org .

Cyngor Cyffredinol 5-7 Tachwedd 2006
Cynhelir Cyngor Cyffredinol Gwobr Dug Caeredin bob dwy flynedd. Bydd Ei Fawrhydi Dug Caeredin ac Iarll Wessex yn ymuno â’r Ymddiriedolwyr a’r cynrychiolwyr yng Nghaeredin. Bydd rhaglen o siaradwyr, seminarau, adloniant ac arddangosfa o gyflawniadau pobl ifanc - rhywbeth i bawb. Os oes gennych ddiddordeb i fynychu’r digwyddiad hwn cysylltwch â’ch Swyddog Gwobr.

Anturiau Padlo
Cyhoeddwyd llyfryn newydd sy’n cynnwys cyngor diwygiedig am anturiau canŵio. Gellir ei lawrlwytho yn: .






Comments: Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?