Thursday, February 22, 2007

 

Chwefror 2007

Newyddion Diweddara’r Rhanbarth Chwefror 2007

Dyddiadau ar gyfer y Dyddiadur

Cynhelir cwrs ‘Cyflwyniad i’r Wobr’ yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, ar 30 Mawrth am gost o £20. Byddwch gystal â hysbysebu’r cwrs i ddarpar gynrychiolwyr. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer arweinyddion newydd neu arweinwyr presennol sydd am ddiweddaru’r wybodaeth sydd ganddynt am y Wobr.

Dyma gyrsiau / digwyddiadau eraill sydd ar y gorwel


3-4 Mawrth Rheoli Diogelwch oddi ar y safle, Libanus £125

19-20 Ebrill Cwrs Goruchwylwyr Alldeithiau, Pont Senni £85
24 Mai Her Gorfforaethol, Crucywel £1000
25 Mai Her Geltaidd, Crucywel £120
20 Mehefin Diwrnod Golff, Bro Morg £495
12-14 Hydref Ras Antur, Eryri £400

Mae gwybodaeth bellach am bob un o’r uchod ar gael gan ein swyddfa yn Aberhonddu.

Gwaetha’r modd, roedd rhaid i ni ganslo’r diwrnod hyfforddi ‘Cyflwyno’r Wobr’ a oedd i fod i gael ei gynnal yng Ngogledd Cymru ar 2 Mawrth.

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru

Mae 5 categori ar gyfer y wobr glodfawr hon, a bydd yr enillwyr yn cael eu gwahodd i Seremoni Wobrwyo yng Nghaerdydd fis Mehefin eleni. Dyma’r categorïau;
· Dros 25
· O dan 25
· Gwirfoddolwr gwyrdd (unrhyw oedran, gyda phrosiect neu
gorff amgylcheddol)
· Ymddiriedolwr
· Grŵp (dau neu fwy o unigolion, fel grŵp anffurfiol neu gorff wedi
ei gyfansoddi’n ffurfiol)

Os oes gennych chi rywun yr hoffech ei enwebu ac yr hoffech gael mwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â desg gymorth CGGC (WCVA) ar 0800 2888 329 e-bost:
help@wcva.org.uk neu lwythwch i lawr oddi ar www.wcva.org.uk/volunteering.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 13 Ebrill 2007.
Gwych o beth fyddai achub ar y cyfle hwn i gydnabod rhai o wirfoddolwyr dygn y Wobr.

Adolygiad Cymru

Mae’r Wobr yng Nghymru wedi bod yn cynnal adolygiad o’i gweithgaredd a’i hadnoddau ac o ganlyniad mae dau newid mawr i fod i ddigwydd dros y misoedd nesaf.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae’r Wobr wedi bod wrthi gyda phrosiect yn cefnogi pobl ifanc oddi mewn i’r System Cyfiawnder Troseddol i gael cymryd rhan yn y Wobr. Mae’r prosiect yn cynnwys 16 aelod o staff a 7 partner o Dimau Troseddwyr Ifanc a’r Gwasanaethau Prawf. Mae’r prosiect wedi bod yn gymaint o lwyddiant fel y gwnaed penderfyniad i gefnogi creu cwmni elusennol ar wahân,sef: Ymyriadau Cyfiawnder Cymunedol Cymru (YCCC). Bydd hwn yn ei gynnal ei hun a bydd yn sicrhau y bydd y gwaith gwerthfawr iawn hwn yn cael ei ymestyn ymhellach.
Rhagwelir y bydd y cwmni newydd yn dechrau gweithredu o 1 Ebrill. Bydd manylion llawn am y cwmni newydd ar gael maes o law.

Mae’r adolygiad wedi canolbwyntio hefyd ar yr adnoddau sydd eu hangen i gefnogi amcanion presennol y Wobr a hynny yn ei dro wedi arwain at archwilio’r staffio a’r costau uniongyrchol a gysylltir â digwyddiadau. Mae’r broses ymgynghori bellach ar ben ac o ganlyniad iddi, effeithiwyd ar dair o’r swyddi gweinyddu / cefnogi yn Swyddfa Cymru.
Crewyd swydd amser llawn o Swyddog Cefnogi a Gweinyddu Prosiectau’r Wobr.
· Crewyd swydd ran amser (tridiau); Swyddog Cefnogi a
Gweinyddu Adnoddau Dynol gan YCCC.

Yn sgil yr ailstrwythuro uchod mae Emma Morrow wedi cymryd tâl diswyddo, o 1 Ebrill bydd Beverly Williams yn trosglwyddo i YCCC a bydd Rhian McDonough yn ymgymryd â’r swydd Swyddog Prosiectau newydd.

Llawer o ddiolch i Bev ac Emma am eu holl waith caled yn ystod y 10 / 4 mlynedd ddiwethaf.


Gwefan y Wobr

Mae gwefan y wobr bellach yn cynnwys Parth Hyfforddi llawn gwybodaeth, sy’n ddelfrydol ar gyfer arweinwyr ac ati. Edrychwch ar y Parth Hyfforddi ar
http://www.theaward.org/awardofficers/index.php?ids=1816&id=1032

Mae gennym hefyd dudalen i Rieni sy’n llawn gwybodaeth os oes gennych rieni sydd am wybod pa brofiadau y bydd eu plant yn eu cael wrth wneud y Wobr. Edrychwch ar y dudalen hon ar
http://www.theaward.org/parents/index.php?ids=1522&id=1452










Comments: Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?