Monday, October 31, 2005

 

Rhanbarth Cymru

Diweddariad Rhanbarthol Rhagfyr 2005

Helo,
Dyma ail rifyn ein Blog, sydd â’r nod o roi’r newyddion diweddaraf i chi am ddatblygiadau yn y Wobr ledled y DU.

Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi.

Steph


Cyflwyniadau’r Wobr Aur


Yn ddiweddar, gwelwyd cyflwyno eu Gwobrau Aur i dros 150 o bobl ifanc ym Mhalas Sant James. Bu’r Cyflwyniad , a ddigwyddodd ym mis Hydref, yn llwyddiant mawr, a Katherine Jenkins oedd yn cyflwyno’r tystysgrifau. Mynychodd 4 grŵp o Gymru y cyflwyniad ym mis Tachwedd, a David Hempleman-Adams a Tom Avery a oedd yn cyflwyno’r tystysgrifau. Hoffwn ddiolch i’r holl gyflwynwyr, y Gwesteion Arbennig a’r Swyddogion a fynychodd y ddau Gyflwyniad. Nid oes unrhyw ddyddiadau wedi’u cadarnhau ar gyfer Cyflwyniadau 2006, ond rhown ni wybod y newyddion diweddaraf i chi.


Pen-blwydd yn 50


Lansiwyd y Pen-blwydd yn 50 ar 19 Hydref 2006. Roedd hwn yn ddigwyddiad rhagorol ac rydym wedi cael sawl ymateb cadarnhaol oddi wrth Deiliaid Gwobrau Aur a welodd y lansiad ac a fyddai’n hoffi cysylltu i helpu yn ystod y flwyddyn.

Mae yna un diweddariad i’n dathliadau rhanbarthol, sef newid dyddiad yr Her Geltaidd. Cynhelir y digwyddiad bellach ddydd Gwener 26 Mai 2006 gyda’r gwersylla dewisol ar gael o hyd ddydd Iau 25.


Bwrsari SERCO


Mae swm o arian y gallwch chi wneud cais amdano o hyd ar ran Pobl Ifanc sy’n ei chael yn anodd cael yr offer hanfodol ar gyfer adran alldeithio’r Wobr. Mae’r ffurflenni cais yn hawdd eu llenwi a’r cyfan a ofynnwn yn gyfnewid yw eich bod chi’n darparu astudiaeth achos fer i ni o sut y gwnaeth y grant wahaniaeth i’r person ifanc, gydag ychydig o ffotograffau efallai. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â’r swyddfa am ffurflen gais.


Ymweliad Brenhinol Tachwedd 2005


Ar 10 Tachwedd 2005, daeth EUB Iarll Wessex i Ogledd Cymru i wylio darpar gyfranogion yn cymryd rhan mewn diwrnod ‘pasport i antur’ ar Ynys Môn; Deiliaid y Wobr Efydd yn derbyn eu tystysgrifau a hefyd dathliad o bartneriaeth 10 mlynedd â’r Gwasanaeth Prawf; dadorchuddio plac yng Ngholeg Dewi Sant, Llandudno i ddathlu eu pen-blwydd yn 40, ac yn olaf i dderbyniad diodydd yn Swyddfeydd Cyngor Conwy.

Roedd y diwrnod yn llwyddiannus iawn ac ymadawodd EUB gan deimlo’n gadarnhaol iawn ynghylch y Wobr yng Nghymru.

Hoffem ddiolch i bawb a gynorthwyodd ar y diwrnod.


Dyddiaduron

Er gwybodaeth, ni fydd y Wobr yn cynhyrchu’r dyddiaduron A4 na’r dyddiaduron poced eleni – gwn fod llawer ohonoch wedi mwynhau derbyn y rhain yn y gorffennol . . . ond bydd yn rhaid i chi wneud trefniadau amgen eleni.


Cyfleoedd Hyfforddi


Mae’r cwrs Achredu Aseswyr yn llenwi’n dda ac rwy’n disgwyl cael cwrs llawn ym mis Ionawr. Mae’r cwrs a gynhelir ym Mhlas y Brenin wedi bod yn llwyddiannus erioed, felly er mwyn sicrhau eich lle, cysylltwch â mi cyn gynted ag y bo modd.


Y Wefan


Rydym yn cael problemau gyda gwefan y Wobr ar hyn o bryd (problem genedlaethol, nid yng Nghymru’n unig!) Cyn gynted ag y bydd y problemau hyn wedi’u datrys, byddwn yn parhau i ddiweddaru’r wefan yn rheolaidd. Rhowch wybod i ni am unrhyw eitemau yr hoffech chi eu gweld ar y wefan, neu eitemau yr hoffech chi eu tynnu oddi arni!


Newyddlen Chwarterol


Fel y soniwyd yn Blog mis Hydref, rydym yn cynhyrchu newyddlen chwarterol a fydd ar gael cyn y Nadolig.

Diolch yn fawr iawn i Sir Gaerfyrddin ac Abertawe am eu cyfraniadau!


Cymdeithas Hyfforddi Arweinwyr Mynydd


Mae Hyfforddi Arweinwyr Mynydd Cymru yn cefnogi datblygu Cymdeithas ar gyfer arweinwyr cymwys ac arweinwyr dan hyfforddiant ar draws y DU. Bydd nifer o fanteision i fod yn aelod o’r Gymdeithas, fel yr amlinellir isod a bydd yn rhoi cyfle i’r rheiny sydd am gael mwy o brofiad i rwydweithio gydag eraill a chael mynediad i fwy o hyfforddiant.


Aelodaeth


Mae Aelodaeth Lawn ar agor i arweinwyr sydd wedi llwyddo yn y cwrs asesu, sef un o wobrau cenedlaethol Byrddau Hyfforddiant Mynydd y DU.
Y gwobrau perthnasol yw SPA, WGL, ML(S), ML(W), a gwobrau uwch.

Mae Aelodaeth Cydymaith ar agor i arweinwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer unrhyw un o’r gwobrau uchod ond sydd heb basio cwrs asesu eto.


Y Manteision



Manteision Ychwanegol


Rhedir MLTA o swyddfeydd Hyfforddi Arweinwyr Mynydd ym Mwthyn Siabod ac mae gan yr aelodau fynediad uniongyrchol at Phill Thomas, sef aelod o’r staff sy’n arweinydd mynydd ac yn gyn dirprwy bennaeth mewn canolfan addysg awyr agored. Gall ateb y mwyafrif o’ch ymholiadau, ac fe’i cefnogir gan aelodau eraill o staff hynod brofiadol.


Sut mae ymuno?


Ewch i www.mlta.co.uk ac ymunwch ar-lein.

Mae’r MLTW, ynghyd â’r Byrddau hyfforddi cenedlaethol eraill, yn darparu hyfforddiant ac asesiadau ar gyfer y gwobrau canlynol: y Wobr Ddringen Unigol (SPA) sy’n hyfforddi arweinwyr i oruchwylio eraill ar glegyrau dringen unigol a waliau dringo, Gwobr Arwain Grŵp Cerdded (WGL) sy’n hyfforddi arweinwyr i arwain eraill ar y mynyddoedd is a thir o fath gweundirol, a’r Wobr Arwain Mynydd (Haf) (ML) sy’n hyfforddi arweinwyr i arwain eraill ar holl fynyddoedd y DU ac Iwerddon o dan amodau nad ydynt yn aeafol. Ystyrir y gwobrau hyn yn eang fel meincnodau gallu ym maes hyfforddiant mynydd, ac fel y cyfryw, mae Awdurdod Trwyddedau Gweithgareddau Antur y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch, yr Adran Addysg a Sgiliau a llawer o gyrff eraill yn eu cydnabod.

Am fwy o wybodaeth am y cyrsiau uchod, ewch i: www.mltw.org

Cynhelir y cyrsiau hyn hefyd gan Blas y Brenin, Gogledd Cymru ac mae mwy o wybodaeth ar gael oddi wrth Helen Barnard ar 01690 720214 neu anfonwch neges e-bost at helen.barnard@pyb.co.uk. Gall arweinwyr y gwobrau gael cyfraddau ffafriol ar gyfer y cyrsiau hyn.

Comments: Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?