Wednesday, January 25, 2006

 

Rhanbarth Cymru

Diweddariad Rhanbarthol Ionawr 2006

Blwyddyn Newydd Dda!

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth
I ddathlu 50 mlwyddiant y Wobr, rydym wedi lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth fyd-eang, ‘Ysbryd y Wobr’ – felly profwch eich sgiliau tynnu lluniau i’r eithaf drwy gymryd rhan.
Gallech chi ennill camera Olympus werth £1,000 a chynhyrchu lluniau swyddogol y Wobr ar gyfer 2006.

Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.theaward.org/participants/index.php?ids=2404&id=1640


50 Mlwyddiant

Wrth i ni gychwyn ein blwyddyn 50 mlwyddiant, fe welwch isod wybodaeth oddi wrth y Brif Swyddfa sy’n amlinellu’r hyn a gyflawnwyd hyd yma, a’r hyn rydym yn gobeithio ei gyflawni yn ystod y flwyddyn.

Yn gyntaf, y newyddion rhagorol yw ein bod wedi cyrraedd ein £1miliwn cyntaf! Mae hon yn garreg filltir sylweddol ac yn rhoi sylfaen gadarn i’r Gronfa Jiwbilî adeiladu arni y flwyddyn nesaf.

Dyma’r hanes hyd yma!


Dyma nodyn byr i’ch atgoffa am rai o’r digwyddiadau eraill sy’n digwydd y flwyddyn nesaf


I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru CLICIWCH YMA


Cyfleoedd i Hyfforddi

Trefnir 2 Gwrs Hyfforddi Arweinwyr Newydd (Cyflwyniad i’r Wobr) yng Nghanolbarth Cymru (Elan Valley Lodge, Rhaeadr, 25/3/06) a De Cymru (Canolfan Ynyshywel, Hengoed, 8/4/06). Pris y naill gwrs a'r llall yw £20 a byddwn yn gwerthfawrogi cael enwau’r cyfranogwyr posibl cyn gynted â phosibl.

Cwrs cymorth cyntaf modiwlaidd yw Cwrs Cymorth Cyntaf Argyfwng REC a gynlluniwyd gan feddygon arbenigol sy’n gweithio mewn gofal iechyd pell. Mae’r cyrsiau’n gydbwysedd rhwng dysgu a sgiliau ymarferol, wedi’u cymysgu ag enghreifftiau o sefyllfaoedd go iawn. Os hoffech fynychu un o’r cyrsiau hyn, mae Gwasanaethau Bigfoot yn cynnal cyrsiau misol yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus o fis Chwefror hyd fis Rhagfyr am bris o £120. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Bigfoot yn uniongyrchol ar 01874 625077. Soniwch eich bod yn un o Arweinwyr y Wobr wrth wneud ymholiadau.


DEAMS

Gobeithir cynnal cwrs DEAMS ar 13 Mawrth 2006 yng Nghanolfan MRC yn Llandrindod. Anfonir gwybodaeth bellach a chadarnhad am leoedd cyn bo hir.


Newyddlen Chwarterol


Erbyn hyn, dylech fod wedi derbyn Newyddlen y Nadolig, a anfonwyd ganol mis Rhagfyr. Os nad ydych wedi derbyn hon eto, rhowch wybod i mi, a gallaf anfon copi atoch. Byddem yn gwerthfawrogi adborth am y newyddlen yn fawr iawn, a pheidiwch ag anghofio am y gystadleuaeth capsiwn!!

Y dyddiad cau ar gyfer erthyglau Rhifyn y Gwanwyn yw dydd Gwener 10 Chwefror 2006. Anfonwch yr holl fanylion am y Newyddlen at Rhian.mcdonough@theaward.org


Y Pytiwr Aur

Cynhelir Rownd Ragbrofol y Pytiwr Aur ar gyfer Rhanbarth Cymru yng Nghlwb Golff Dyffryn Llangollen, Gogledd Cymru ar 31 Mai 2006. Pris cystadlu yw £10 a bydd yr enillydd a’r sawl sy’n dod yn ail yn mynd drwodd i’r rownd derfynol yn Wentworth ar 21 Gorffennaf 2006.

Mae gwybodaeth bellach a ffurflenni cais ar gael gan Ian Gwilym yn ian.gwilym@theaward.org a hefyd ar wefan y Wobr


Cyflwyniadau Aur


Cynhelir dwy Seremoni Cyflwyno’r Wobr Aur cyn bo hir. 23 ac 28 Chwefror yw’r dyddiadau. Bydd 6 grŵp o Gymru’n mynychu’r ddau ddigwyddiad.


Cynhadledd MLTE / MLTW.


I’w chynnal ym Mhlas y Brenin ddydd Sadwrn 25 Mawrth 2006.
Bydd sail ymarferol i’r gynhadledd hon a bwriedir cynnal gweithdai / cyflwyniadau / gweithgareddau ynddi i symbylu pawb sy’n ymwneud â chyflwyno’r Wobr MLT.
Cost £50.

Cysylltwch â: 01690 720314

Comments: Post a Comment



<< Home

This page is powered by Blogger. Isn't yours?